Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Tachwedd 2014
Amser: 09.00 -
11.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/2463
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC |
Tystion: |
Professor Andrew Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Simon Dean, Llywodraeth Cymru Rory Farrelly, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Dr Ruth Hussey, Llywodraeth Cymru Dr Hamish Laing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Paul Roberts, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Staff y Pwyllgor: |
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Dave Thomas (Cynghorwr Arbenigol) Huw Vaughan Thomas (Cynghorwr Arbenigol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; a, Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru, ynghylch llywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru, yn benodol ar faterion yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
3.2 Datganodd Dr Hussey fuddiant am ei bod yn perthyn i Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
3.3 Cytunodd Dr Goodall i anfon manylion am gostau ariannol darparu cefnogaeth ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys defnyddio meddygon locwm a nyrsys asiantaeth, ac i anfon enwau'r holl aelodau cyfetholedig ar y bwrdd ynghyd â manylion am eu sgiliau a'u pecynnau tâl (os yn briodol). Cytunodd hefyd i ddarparu rhagor o fanylion ac amserlen ar y Fframwaith Safonau Iechyd ar gyfer Papur Gwyrdd GIG Cymru a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2014.
3.4 Cytunodd Dr Goodall i ystyried cyhoeddi lefel yr ymyrraeth ym mhob bwrdd iechyd yn fwy cyhoeddus, efallai ar wefan Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol.
4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd; Paul Roberts, Prif Weithredwr; Rory Farrelly, Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf; a, Hamish Laing, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ynghylch llywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am eglurhad ynghylch dosbarthiad yr adnoddau ariannol ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer byrddau iechyd yn 2014-15.